Universe in the Classroom logo

The Welsh Government funding for Universe in the Classroom ended in June 2018. We have left this site available as an archive of the project.

Awyr Dywyll a Llygredd Golau

en

Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn adeiladu planetariwm yn eich ystafell ddosbarth, gan roi cyfle i’ch disgyblion archwilio effeithiau llygredd golau, arbrofi ag atebion posibl a dysgu pam fod ar seryddwyr angen awyr dywyll.

Awyr Dywyll a Llygredd Golau canllaw athrawon

Awyr Dywyll a Llygredd Golau taflen waith myfyrwyr

Amcanion Dysgu:

Deunyddiau

Gwybodaeth Gefndir:

Os ydych allan yng nghefn gwlad neu ar y môr ac yn edrych yn ôl ar dref neu ddinas, fe welwch olau (oren fel arfer, o’r goleuadau stryd) yn tywynnu dros yr ardal. Caiff hyn ei alw’n lygredd golau. Os ydych yn y ddinas, mae cymaint o olau’n cael eu golli tuag i fyny fel bod yr holl sêr gwan yn diflannu. Y Lleuad a’r planedau a’r sêr mwyaf llachar yn unig sy’n dal i fod yn weladwy.

I leihau llygredd golau, yn hytrach na gadael i’r holl olau ddianc tuag i fyny lle nad oes ei angen ar neb, a hynny hefyd yn creu pyllau o olau a chysgodion dwfn i lawr fan hyn lle mae ei angen arnom, mae’n rhaid inni ddylunio goleuadau sy’n rhwystro golau rhag gollwng tuag i fyny ac i’r ochrau, ac sydd yn lle hynny yn anelu’r golau tuag i lawr lle mae eisiau’r golau arnom.

Cyfarwyddiadau

Paratoi

Cyn cychwyn ar y gweithgaredd, crëwch blanetariwm yn eich ystafell ddosbarth drwy ddilyn y camau canlynol:

1) Rhowch y flanced dros ddesg o faint da a gwnewch yn siŵr eich bod yn rhwystro’r holl olau. Dyma eich planetariwm.

2) Gosodwch lyfr ar agor ar ei draed ar y llawr y tu mewn i’r planetariwm, gyda darlun manwl yn weledol, a gosodwch ffiguryn bach i sefyll oddi mewn i’r llyfr.

Dark Skies Setup

3) Cymrwch y blwch cardbord a gwnewch dyllau yn y pen uchaf gan ddefnyddio eich pin. Crëwch siâp nodedig (e.e. aliwn, wyneb â gwen, cytser cyfarwydd). Bydd y tyllau’n efelychu’r sêr yn awyr y nos.

4) Gosodwch dortsh y tu mewn i’r bocs fel bod ei golau’n disgleirio drwy’r tyllau. Defnyddiwch dâp i ddal y dortsh yn ei lle.

Dark Skies Setup 2

5) Yn olaf, rhowch y bocs a’r dortsh y tu mewn i’ch planetariwm fel bod y golau o’r dortsh yn disgleirio drwy’r tyllau ac yn ymddangos ar fol y bwrdd.

Camau’r Gweithgaredd

  1. Rhannwch y disgyblion yn barau. Gofynnwch iddyn nhw fynd i mewn i’r planetariwm, un pâr ar y tro. Cyn iddyn nhw fynd i mewn, rhowch dortsh, plât papur bach a thaflen waith Awyr Dywyll (Atodiad 14) i bob pâr.

  2. Pan fydd pob pâr wedi bod i mewn i’r planetariwm ac wedi trafod, yn eu parau, y pwyntiau sydd wedi’u rhestru ar eu taflenni gwaith, arweiniwch drafodaeth grŵp ynghylch y pwyntiau canlynol:

  3. A yw’r lamplen yn ei gwneud yn haws ichi weld y tirlun (y llun yn y llyfr)?
  4. Pryd mae’r sêr yn fwy gweladwy?
  5. Pryd mae’r ffiguryn yn fwy gweladwy?
  6. Os mai postyn lamp go iawn fyddai’r dortsh, a fyddai’n addas yn y stryd i bobl sy’n cerdded yn y nos?
  7. Pa effaith mae pyst lamp yn ei gael ar arsylwadau seryddol mewn trefi a dinasoedd? Sut gellid cywiro hyn?
  8. Ar sail y gweithgaredd hwn, ble yw’r lle gorau i adeiladu arsyllfa? (E.e. mewn dinas brysur, yng nghefn gwlad, ar fynydd.)

  9. Dangoswch y ffotograffau o safleoedd yr arsyllfeydd LCO (Atodiad 15) neu defnyddiwch PowerPoint Lluniau’r Arsyllfeydd, a thrafodwch pam fyddai’r safleoedd hyn wedi’u dewis:

  10. a. Mae safleoedd yr arsyllfeydd yn anghysbell; yn bell o lygredd golau.
  11. Mae rhai wedi’u lleoli mewn diffeithdir neu dirweddau sych heb lawer o law na chymylau.
  12. Mae pob un ar uchder uchel fel eu bod uwchlaw cymylau, stormydd glaw ac ati.
  13. Nid oes pyst lamp na goleuadau cyhoeddus ar safleoedd yr arsyllfeydd.

Observing Sites

Casgliad

A’r disgyblion bellach yn deall manteision lleoliad arsylwi sydd ag awyr dywyll, defnyddiwch y telesgopau robotig i ddangos mor drawiadol y gall golwg dda ar awyr y nos fod. Dewiswch unrhyw wrthrych o’r rhestr a roddir ar y wefan arsylwi. Gallwch hefyd ddefnyddio Camerâu All Sky LCOGT i fwynhau golygfa ragorol o awyr y nos drwy fynd i lco.global/camera/

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm:

Daearyddiaeth CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru: “Deall lleoedd, amgylcheddau a phrosesau.”

Resources

Print media and online resources.

News & Events

Project news and up-coming training events.

Contact

If you would like to join Universe in the Classroom, please contact us.