Universe in the Classroom logo

The Welsh Government funding for Universe in the Classroom ended in June 2018. We have left this site available as an archive of the project.

Dylunio Galaeth

en

Cewch ddysgu am y gwahanol fathau o alaethau anferth llawn sêr sydd yn y Bydysawd mewn gweithgaredd celf hwyliog, tra’n ymarfer sgiliau rhifedd hefyd!

Dylunio Galaeth canllaw athrawon

Taflen Ffeithiau'r Galaethau Droellog

Taflen Ffeithiau'r Galaethau Droellog Farrog

Taflen Ffeithiau'r Galaethau Droellog Eliptig

Amcanion Dysgu:
Materials
Gwybodaeth gefndir

Grŵp masfawr o sêr, clystyrau o sêr, nwy a llwch rhyngserol a mater tywyll yw galaeth, a’r cyfan wedi’u rhwymo ynghyd gan ddisgyrchiant. Mae cannoedd o biliynau o alaethau yn y Bydysawd. Mae pob math o siapau a meintiau ohonynt, ond y tri math mwyaf cyffredin yw galaethau troellog, galaethau troellog barrog, a galaethau eliptig.

Y math mwyaf cyffredin o alaeth yw “galaeth droellog”. Mae galaethau troellog yn edrych fel troell, gyda breichiau hir yn troelli tuag at chwydd llachar yn y canol.

Galaethau troellog yw tua 70% o’r galaethau yn y Bydysawd lleol. Mae ein galaeth ni, y Llwybr Llaethog, yn alaeth droellog nodweddiadol.

Galaeth Droellog: Mae i rai galaethau troellog freichiau sy’n troelli’n dynn, ac mae gan alaethau eraill freichiau sy’n troelli’n llawer llacach. Mae llawer o nwy a llwch ym mreichiau galaeth droellog, ac maen nhw’n aml yn ardaloedd lle caiff sêr newydd eu ffurfio’n gyson. Mae’r chwydd mewn galaeth droellog yn bennaf yn cynnwys hen sêr coch. Ychydig iawn o sêr sy’n ffurfio yn y chwydd.

Spiral Galaxy

BGalaeth Droellog Farrog: Mae galaethau troellog barrog yn alaethau troellog sydd â bar hir yn y canol, gyda breichiau troellog yn dod oddi ar bob pen. Mae tua dau draean o’r holl alaethau troellog yn rhai troellog barrog, gan gynnwys ein galaeth ni – y Llwybr Llaethog. Fel galaethau troellog ac eliptig, credir bod twll du yn llercian yng nghanol galaethau troellog barrog.

Barred Galaxy

Galaeth Eliptig: Mae galaethau eliptig wedi’u henwi ar sail eu siâp (siâp cylch wedi’i ymestyn yw elíps). Mae galaethau eliptig wedi’u gwneud yn bennaf o hen sêr, ac nid oes llawer o nwy a llwch ynddynt. Ychydig iawn o sêr newydd sy’n ffurfio yn y galaethau hyn. Mae llawer o wahanol feintiau o alaethau eliptig hefyd. Galaethau eliptig yw’r galaethau mwyaf a welwn, ond gallant fod yn fach hefyd. Mae tua 60% o’r holl alaethau yn eliptig.

Elliptical Galaxy

Cyfarwyddiadau

1) Rhannwch eich dosbarth yn barau a rhowch ddosbarth o alaeth i bob pâr: Galaeth Droellog, Galaeth Droellog Farrog neu Alaeth Eliptig. Rhowch y daflen waith briodol i bob pâr (dim ond y daflen wybodaeth ar gyfer eu math nhw o alaeth fydd ei hangen arnyn nhw).

2) Byddan nhw’n nawr yn darllen y disgrifiad o’u gwrthrych ar y daflen waith.

3) Gofynnwch i bob pâr ddewis un o’r tair galaeth ar waelod eu taflen. Mae’r tabl yn rhoi gwybodaeth am faint yr alaeth a’r raddfa i’w defnyddio.

4) Esboniwch fod 1:100 yn golygu eu bod yn rhannu maint eu galaeth (mewn blynyddoedd golau) â 100, a bod 1:250 yn golygu eu bod yn rhannu maint eu galaeth â 250 ac ati. Mae tabl isod sy’n rhoi’r meintiau cywir ar gyfer pob un o’r naw o alaethau posib. 1. Esboniwch fod pob centimetr yn cynrychioli nifer y blynyddoedd golau sy’n cael ei ddangos ar ochr dde’r colon yn y gymhareb, e.e. 1:100 yn golygu 1cm: 100 bg.

5) Pan fyddan nhw’n gwybod hyd eu galaeth, gall y disgyblion ddechrau tynnu ei lun. Gofynnwch iddyn nhw dynnu llinell ysgafn o hyd eu galaeth (fel a gyfrifwyd yng ngham 5) ar ddarn o bapur du.

6) Wedyn, gyda’r llinell hon yn gyfeirnod, gallan nhw fraslunio eu galaeth gan ddefnyddio pensil. Gwnewch yn siŵr bod eu galaeth y siâp cywir fel sydd wedi’i ddisgrifio ar eu taflen ffeithiau.

7) Y cam nesaf yw amlinellu’u galaeth â glud ac ysgeintio gliter yn hael drosto i gynrychioli’r miliynau lu o sêr sydd ym mhob galaeth.

8) O’r fan hon, gall y disgyblion ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau eraill i ychwanegu’r nodweddion eraill sydd wedi’u disgrifio ar eu taflen waith, e.e. breichiau troellog, eurgylch, chwydd. Dyma gyfle da i ymarfer technegau’r ydych yn eu haddysgu ym mhwnc Celf ar hyn o bryd, fel mosäig, gweadeddu ac ati.

Ymarferiad Bonws

Wedi i bob pâr gwblhau eu gwaith celf galaethol a’i fod wedi sychu’n iawn, gallwch roi’r holl alaethau at ei gilydd i greu diagram enwog Fforch Diwnio Hubble. Bydd yn ddarn gwych o gelf i’w roi ar wal eich dosbarth! Dyma’r camau:

1) Gludwch pob galaeth yn y lle cywir i ffurfio eich Fforch Diwnio, gyda’r galaethau lleiaf ar y chwith, gan gynyddu i’r mwyaf ar y dde. (Gweler y diagram).

2) Gorffennwch y gweithgaredd drwy ofyn i’r disgyblion a yw eu galaeth nhw yn fwy neu’n llai na galaeth y pâr sydd nesaf atynt.

A yw hyn yn golygu ei fod yn fwy/llai mewn bywyd go iawn? Yr ateb yw ei fod yn achos galaethau o’r un dosbarth. Y rheswm am hyn yw nad yw’n bosib cymharu maint dau fodel yn gywir oni bai eu bod yn defnyddio’r un gymhareb.

3) Pan fydd eu galaeth yn sych, gofynnwch i’r disgyblion ddangos a disgrifio eu galaeth, naill wrth y dosbarth neu mewn grwpiau bach. Beth yw enw eu galaeth? Pa fath o alaeth ydyw? Pa rai o nodweddion yr alaeth maen nhw wedi’u cynnwys yn eu gwaith celf?

Tabl Atebion:
math enw maint (cm)
Eliptig Messier 60 17
Eliptig Messier 81 12
Eliptig Messier 49 24
Droellog Messier 74 18
Droellog Messier 81 20
Droellog Messier 88 22
Droellog Farrog Messier 66 19
Droellog Farrog Messier 108 18
Droellog Farrog NGC 1300 21
Casgliad

A’ch dosbarth bellach yn gyfarwydd â beth yw galaeth a’u bodolaeth yn y Bydysawd, defnyddiwch y telesgopau robotig i dynnu tri llun, un o bob math o alaeth: troellog, troellog barrog ac eliptig.

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm:

Mathemateg CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru, “Cyfrifo mewn Amrywiaeth o Ffyrdd” ac “Ymchwilio i Batrymau a Pherthnasoedd”.

Resources

Print media and online resources.

News & Events

Project news and up-coming training events.

Contact

If you would like to join Universe in the Classroom, please contact us.