Yn y gweithgaredd hwn bydd y disgyblion yn ysgrifennu am alaethau tra’n ymarfer eu sgiliau creadigol mewn ymarferiad lluniadu ac ysgrifennu.
Cerdd Siâp Galaeth canllaw athrawon
Taflen Ffeithiau'r Galaethau Droellog
Amcanion Dysgu:
- Datblygu dealltwriaeth o’r nifer helaeth a’r amrywiaeth o alaethau sydd yn y Bydysawd,
- Meddwl yn greadigol ac ymarfer sgiliau llythrennedd i greu cerdd siâp
Materials
I bob disgybl
- Taflen Ffeithiau Galaeth Droellog wedi’i hargraffu (Atodi 10)
- Templed Galaeth wedi’i hargraffu (Atodiad 11)
- Papur sgrap
- Pensil
Gwybodaeth Gefndir:
Grŵp masfawr o sêr, clystyrau o sêr, nwy a llwch rhyngserol a mater tywyll yw galaeth, a’r cyfan wedi’u rhwymo ynghyd gan ddisgyrchiant. Mae cannoedd o biliynau o alaethau yn y Bydysawd. Mae pob math o siapau a meintiau ohonynt, ond y tri math mwyaf cyffredin yw galaethau troellog, galaethau troellog barrog, a galaethau eliptig.
Y math mwyaf cyffredin o alaeth yw “galaeth droellog”. Mae galaethau troellog yn edrych fel troell, gyda breichiau hir yn troelli tuag at chwydd llachar yn y canol. Galaethau troellog yw tua 70% o’r galaethau yn y Bydysawd lleol. Mae ein galaeth ni, y Llwybr Llaethog, yn alaeth droellog nodweddiadol.
Galaeth Droellog
Mae i rai galaethau troellog freichiau sy’n troelli’n dynn, ac mae gan alaethau eraill freichiau sy’n troelli’n llawer llacach. Mae llawer o nwy a llwch ym mreichiau galaeth droellog, ac maen nhw’n aml yn ardaloedd lle caiff sêr newydd eu ffurfio’n gyson. Mae’r chwydd mewn galaeth droellog yn bennaf yn cynnwys hen sêr coch. Ychydig iawn o sêr sy’n ffurfio yn y chwydd.
Galaeth Droellog Farrog
Mae galaethau troellog barrog yn alaethau troellog sydd â bar hir yn y canol, gyda breichiau troellog yn dod oddi ar bob pen. Mae tua dau draean o’r holl alaethau troellog yn rhai troellog barrog, gan gynnwys ein galaeth ni – y Llwybr Llaethog. Fel galaethau troellog ac eliptig, credir bod twll du yn llercian yng nghanol galaethau troellog barrog.
Galaeth Eliptig
Mae galaethau eliptig wedi’u henwi ar sail eu siâp (siâp cylch wedi’i ymestyn yw elíps). Mae galaethau eliptig wedi’u gwneud yn bennaf o hen sêr, ac nid oes llawer o nwy a llwch ynddynt. Ychydig iawn o sêr newydd sy’n ffurfio yn y galaethau hyn. Mae llawer o wahanol feintiau o alaethau eliptig hefyd. Galaethau eliptig yw’r galaethau mwyaf a welwn, ond gallant fod yn fach hefyd. Mae tua 60% o’r holl alaethau yn eliptig.
Cyfarwyddiadau
1) Rhowch Daflen Ffeithiau Galaeth Droellog i bob disgybl (Atodiad 10).
2) Bydd hefyd ar bob disgybl angen pensil, darn o bapur sgrap a naill ai dalen o bapur plaen neu Dempled Galaeth (Atodiad 11).
3) Gofynnwch i’r dosbarth ddarllen y paragraff am eu galaeth ar y daflen waith.
4) Gofynnwch i’r disgyblion wedyn luniadu amlinelliad o’u gwrthrych (gweler yr enghraifft ar y dde). Noder: Os ydych yn dewis rhoi Templed Galaeth i bob disgybl, cewch neidio ymlaen i’r cam nesaf.
5) Byddant wedyn yn creu Cerdd Siâp. I wneud hyn, gofynnwch i’r disgyblion ysgrifennu cerdd ar ddarn o bapur sbâr ynglŷn â’r gofod a galaethau troellog yn seiliedig ar y wybodaeth ar eu taflen ffeithiau a’u gwybodaeth bresennol am y gofod.
6) Wedi iddyn nhw orffen, byddan nhw wedyn yn copïo eu cerdd ar hyd amlinell eu galaeth, gan ddilyn ei siâp (gweler yr enghraifft yn y ffotograff uchod).
7) Gallech ofyn i’r disgyblion ddod i flaen y dosbarth, un ar y tro, i rannu eu gwaith, dangos eu llun a darllen eu cerdd. Cadwch lygad am rai sydd wedi cynnwys nodweddion penodol galaethau troellog: breichiau troellog, twll du, disg, chwydd canolog, nwy, sêr.
Casgliad
A’ch dosbarth bellach yn gyfarwydd â beth yw galaeth a sut olwg sydd arnyn nhw, defnyddiwch y telesgopau robotig i dynnu tri llun, un o bob math o alaeth: troellog, troellog barrog ac eliptig.
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru, Saesneg, Ysgrifennu.