Mae tua 9000 o sêr yn ddigon llachar i’w gweld â’r llygad noeth, ond hyd yn oed yn y safle arsylwi mwyaf perffaith, dim ond hanner ohonynt y mae modd inni weld ar unwaith. Y rheswm am hyn yw y bydd y blaned bob amser yn cuddio rhan o awyr y nos o’n golwg. Bydd y gweithgaredd hwn yn esbonio’r syniad cymhleth hwn gan ddefnyddio arddangosiad ymarferol syml, a hefyd yn esbonio cysyniadau pwysig y Cyhydedd a’r Hemisfferau.
Yr Hemisfferau canllaw athrawon
Amcanion Dysgu
- Nodi safle ac arwyddocâd y Cyhydedd, Hemisffer y Gogledd a Hemisffer y De.
- Ymgyfarwyddo â chylchdro’r Ddaear, gan gynnwys y gogwydd echelog.
- Deall mai hanner yr hemisffer wybrennol y mae modd inni weld o unrhyw un lleoliad.
- Deall pam ei bod yn bwysig bod telesgopau wedi’u lleoli yn y ddau hemisffer.
Deunyddiau
- Delweddau Seryddol wedi’u hargraffu (Atodiad 13)
- Ffigurynnau wedi’u hargraffu (Atodiad 17)
- Glôb neu bêl y Ddaear
- Pwti gludiog (Blue Tack er enghraifft)
- Llinyn (sy’n ddigon hir i fynd o amgylch y glôb neu bêl y Ddaear)
- 7 sticer bach
Gwybodaeth Gefndir:
Sffêr yw’r Ddaear. Y Cyhydedd yw’r enw ar linell anweledig o amgylch y Ddaear sy’n ei rhannu’n ddau hanner. Caiff y ddau hanner eu galw’n Hemisfferau. I’r gogledd o’r cyhydedd y mae Hemisffer y Gogledd; i’r de o’r cyhydedd mae Hemisffer y De.
Mae Hemisffer y Gogledd yn cynnwys Ewrop oll, Gogledd America, rhannau gogleddol De America, dau draean o Affrica, a bron y cyfan o Asia. Mae Hemisffer y De yn cynnwys Awstralasia, Antartica, y rhan fwyaf o Dde America, traean o Affrica, a mymryn bach o Asia. Mae’r ddelwedd a’r tabl isod yn dangos lleoliad saith prif safle arsylwi LCOGT.
Arsyllfa | Lleoliad |
---|---|
Haleakala | Hawaii, USA |
McDonald | Texas, USA |
Cerro Tololo | Chile |
Sutherland | South Africa |
Siding Springs | Eastern Australia |
Teide | Tenerife |
Ali | Tibet, China |
Cyfarwyddiadau
Paratoi
1) 1. Cyn cychwyn ar y gweithgaredd hwn, argraffwch Atodiad 13: Delweddau Seryddol ac Atodiad 17: Ffigurynnau.
2) Torrwch y ddwy ddelwedd seryddol a dau o’r ffigurynnau.
3) Dylai fod gennych ddau lun o awyr y nos: un o Seren y Gogledd ac un o Alaeth Andromeda (Atodiad 13). Defnyddiwch y pwti gludiog i osod Seren y Gogledd yn uchel ar wal. Gosodwch Alaeth Andromeda yn isel i lawr ar y wal gyferbyn.
4) Gosodwch eich 7 sticer ar eich glôb. Bydd pob un yn nodi lleoliad arsyllfa LCOGT. Mae’r lleoliadau i’w gweld ar y ddelwedd a’r tabl yn adran Gwybodaeth Gefndir.
Cyfarwyddiadau
1) Gwiriwch fod y disgyblion yn deall sut mae’r Ddaear yn cylchdroi; dangoswch gylchdro’r Ddaear gan ddefnyddio’r glôb neu bêl y Ddaear a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys gogwydd echelog y Ddaear (23.4°). Noder: Mae’r Ddaear yn cylchdroi mewn cyfeiriad gwrthglocwedd.
2) Gofynnwch i’r disgyblion os ydynt erioed wedi clywed am Seren y Gogledd: - a. Ble welwn ni Seren y Gogledd? (Yn union uwchben Pegwn y Gogledd). - a. A yw Seren y Gogledd byth yn symud i ffwrdd o Begwn y Gogledd (e.e. pan fo’r Ddaear yn cylchdroi)? (Nac ydyw).
3) Gofynnwch i wirfoddolwr efelychu diwrnod ar y Ddaear gan ddefnyddio’r glôb / pêl y Ddaear. Gwnewch yn siŵr ei fod/bod yn cadw’r Ddaear ar ogwydd a bod Pegwn y Gogledd yn pwyntio at lun Seren y Gogledd.
4) Pan fyddant yn deall y ffordd mae’r Ddaear yn symud mewn perthynas â Seren y Gogledd, gofynnwch i’r disgyblion sawl ochr sydd gan y Ddaear. Wrth gwrs, sffêr yw’r Ddaear, felly dim ond un ochr sydd ganddi. Ond esboniwch eich bod yn rhannu’r arwyneb yn ddau hanner, a chaiff y rhain eu galw’n Hemisfferau.
5) Gofynnwch i wirfoddolwr helpu i lapio llinyn o amgylch canol y glôb i ddynodi’r cyhydedd (gweler y llun isod). Ysgrifennwch y termau canlynol ar y bwrdd i helpu eich disgyblion i’w cofio: Cyhydedd, Hemisfferau, Hemisffer y Gogledd, Hemisffer y De.
6) Pwyntiwch at bob un o’r canlynol ar y glôb yn eu tro,
- a. Esboniwch beth yw’r Cyhydedd wrth y dosbarth.
- a. Esboniwch ein bod yn galw’r ddau ranbarth uwchben ac o dan y cyhydedd yn Hemisfferau.
- a. Esboniwch mai Hemisffer y Gogledd yw’r enw a rown ar hanner y glôb sydd i’r gogledd o’r cyhydedd, a Hemisffer y De yw’r enw a rown ar hanner y glôb sydd i’r de o’r cyhydedd.
7) Nesaf gosodwch ddau ffiguryn ar eich glôb gan ddefnyddio blue tac; rhowch un yn sefyll yn agos at Begwn y Gogledd (e.e. Yr Ynys Las neu’r Ffindir) ac un yn agos at Begwn y De (e.e Chile neu Awstralia).
8) Gofynnwch i wirfoddolwr unwaith eto efelychu cylchdro’r Ddaear (gan gofio am y gogwydd echelog a safle Seren y Gogledd). Gofynnwch iddyn nhw ailadrodd hyn ychydig droeon eto gyda’r disgyblion eraill yn edrych ar luniau Andromeda a Seren y Gogledd yn ofalus: a. A wnaeth y dosbarth sylwi ar unrhyw beth? Ar ba amser o’r dydd y gallai’r ffiguryn yn Hemisffer y Gogledd weld llun Andromeda? (Byth). b. Ar ba amser y gallai’r ffiguryn yn Hemisffer y De weld Seren y Gogledd? (Byth).
9) Dylai’r disgyblion sylweddoli na all y ffiguryn ger Hemisffer y Gogledd byth weld Andromeda. Y ffiguryn wrth ymyl Hemisffer y De yn unig all weld Andromeda. Ac mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd.
10) Er bod modd gweld rhai gwrthrychau yn awyr y nos o’r ddau hemisffer, mae llawer nad oes modd eu gweld ond o un hemisffer yn unig. Dyma pam fod gan LCOGT delesgopau ledled y byd, er mwyn iddynt allu gweld pob rhan o awyr y nos! Pwyntiwch at y gwahanol arsyllfeydd ar eich glôb i ddangos y lleoliadau ar y ddau hemisffer.
Casgliad
Erbyn diwedd y gweithgaredd hwn, dylai’r disgyblion ddeall bod gan y Ddaear ddau Hemisffer a pham fod angen arsyllfeydd arnom yn Hemisffer y De a Hemisffer y Gogledd. Nesaf, dewiswch ddau wrthrych seryddol o’r rhestr isod; un sy’n weladwy o hanner gogleddol awyr y nos ac un o’r hanner deheuol. Gofynnwch am gael arsylwi’r ddwy ddelwedd drwy ddefnyddio’r telesgopau robotig a chewch weld eich hun beth yw manteision rhwydwaith o delesgopau robotig ledled y byd!
Isod cewch weld enghreifftiau o wrthrychau seryddol gogleddol a deheuol y gallech eu harsylwi.
Northern Hemisphere | Exposure Time | Southern Hemisphere | Exposure Time |
---|---|---|---|
M2 | 45s | Eta Carinae | 5s |
NGC 6217 | 45s | NGC 3324 | 120s |
NGC 5866 | 30s | NGC 3293 | 11s |
Abell 2218 | 180s | NGC 2547 | 30s |
NGC 6946 | 200s | NGC 3201 | 55s |
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm:
Daearyddiaeth CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru, Sgiliau: “Lleoli lleoedd, amgylcheddau a phatrymau.”