Golau yw ein ffenest, nid yn unig i’r Bydysawd pell, ond i’r holl fyd o’n hamgylch. Yn y gweithgaredd hwn, bydd y disgyblion yn archwilio sut mae golau’n teithio; yn dysgu bod golau’n teithio mewn llinellau syth, a bod modd iddo gael ei adlewyrchu. Byddant hefyd yn dysgu am wrthrychau tryloyw ac anhryloyw.
Amcanion Dysgu
- Deall bod golau’n teithio mewn llinellau syth
- Deall y term ‘adlewyrchu’ ac arddangos y ffenomen
- Deall sut mae telesgop adlewyrchu’n gweithio
- Deall y gall golau deithio drwy wrthrychau tryloyw ac na all deithio drwy wrthrychau anhryloyw.
Deunyddiau
I bob grŵp:
- Tortsh lachar
- 2 x drych llaw
- Darn o gerdyn (neu wrthrych anhryloyw arall)
- Cling ffilm (neu wrthrych tryloyw arall)
I bob disgybl:
- Pren mesur
- Pensil
- Diagram o delesgop 1 metr (Atodiad 1)
Gwybodaeth Gefndir:
Mae golau’n teithio mewn llinellau syth. Pan fydd golau’n taro gwrthrych, caiff ei adlewyrchu ac mae’n mynd i mewn i’n llygaid. Dyma sut y gwelwn y gwrthrych.
Wrth feddwl am adlewyrchu, mae’n debyg y byddwch yn meddwl am ddrych. Mae drych yn adlewyrchu’r holl olau sy’n ei daro. Dyna pam y gallwch chi weld eich hun mewn drych. Mae pob gwrthrych a welwn naill ai’n allyrru neu’n adlewyrchu golau. Dyma sut rydyn ni’n eu gweld. Er enghraifft, mae’r môr yn adlewyrchu golau, ond nid cymaint ohono â drych. Os ydych yn edrych i lawr i mewn i’r môr, ni welwch adlewyrchiad clir ohonoch eich hun, ond fe welwch adlewyrchiad o’r awyr. Pan fydd golau yn bownsio oddi ar wrthrych, bydd ongl yr adlewyrchiad yn hafal i ongl y trawiad.
Mae gwrthrychau tryloyw yn caniatáu ichi weld yn glir drwyddyn nhw; mae ffenest a sbectol yn enghreifftiau o’r rhain. Rhywfaint o olau yn unig mae gwrthrychau tryleu yn gadael drwyddynt felly ni allwch weld yn glir drwy wrthrych tryleu; mae enghreifftiau yn cynnwys poteli plastig a dŵr sy’n symud. Nid yw gwrthrychau anhryloyw yn gadael unrhyw olau drwyddynt felly ni allwch weld drwyddynt; mae waliau a byrddau yn enghreifftiau o wrthrychau anhryloyw.
Cyfarwyddiadau:
1) Rhannwch y dosbarth yn grwpiau o dri neu bedwar.
2) Gofynnwch i’r disgyblion sut mae golau’n teithio. Ysgrifennwch y cwestiynau canlynol ar y bwrdd: a. Sut mae golau’n teithio? b. A all golau deithio drwy wrthrychau? c. A all golau newid cyfeiriad?
3) Dywedwch wrth y disgyblion y byddan nhw’n defnyddio’r deunyddiau a ddarparwyd i ateb y cwestiynau hyn. I bob grŵp, rhowch dortsh llachar, dau ddrych, cling ffilm a darn o gerdyn.
Noder: Os nad oes gennych ddigon o ddeunyddiau ar gyfer sawl grŵp, neu os ydych yn gweithio gyda disgyblion iau, llai annibynnol, gallwch neidio ymlaen i Gam 5.
4) Rhowch 10 munud i’r disgyblion arbrofi gyda’u deunyddiau a cheisio ateb y cwestiynau ar y bwrdd. - A allan nhw gyfeirio eu golau at darged ar y wal? Beth sy’n digwydd os ydyn nhw’n defnyddio’r drychau a phropiau eraill? - Sut mae’r golau’n cael ei effeithio gan wahanol ddeunyddiau? - Faint o’r propiau gallan nhw ddefnyddio yr un pryd, a chael y golau i gyrraedd y targed ar y wal?
{{
5) Nesaf, gofynnwch i’r disgyblion eistedd i lawr a phylwch y golau.
6) Gofynnwch am wirfoddolwr. Cyneuwch eich tortsh lachar a gofynnwch i’r gwirfoddolwr bwyntio pelydryn y tortsh at darged ar y wal. Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n meddwl bod y golau’n teithio mewn llinell syth neu igam-ogam.
Noder: Os nad yw pelydryn y tortsh yn weladwy, rhowch eich llaw rhwng y tortsh a’r targed ar wahanol bwyntiau i ddangos llwybr y golau.
7) Gofynnwch i ail wirfoddolwr ddal darn o gerdyn rhwng y tortsh a’r targed. Gwnewch yn siŵr y gall y dosbarth weld y targed — a yw’r golau’n dal i gyrraedd y targed? Pam ddim?
8) Cyfnewidiwch y cerdyn am ddarn o gling ffilm. Gofynnwch i’r gwirfoddolwr ymestyn y cling ffilm yn dynn a’i ddal yn dynn rhwng y tortsh a’r targed. A yw’r golau’n cyrraedd y targed yn awr? Beth sy’n wahanol?
9) Esboniwch fod gwrthrychau sy’n caniatáu i olau deithio drwyddynt yn cael eu galw’n wrthrychau ‘tryloyw’ a bod gwrthrychau nad ydynt yn caniatáu i olau deithio drwyddynt yn cael eu galw’n wrthrychau ‘anhryloyw’. Ysgrifennwch y ddau derm yma ar y bwrdd.
10) Nawr gofynnwch i wirfoddolwr arall ymuno â chi. Rhowch ddrych i’r gwirfoddolwr a phwyntiwch belydryn eich tortsh i ffwrdd o’r targed. Gofynnwch i’r gwirfoddolwr geisio dal y pelydryn a’i fownsio oddi ar y drych fel ei fod yn taro’r targed.
11) OWedi i’r gwirfoddolwr anelu’r pelydryn at y targed yn llwyddiannus, gofynnwch am wirfoddolwr arall, a rhowch ail ddrych iddi/iddo. Gofynnwch iddynt weithio gyda’i gilydd i geisio cyfeirio’r pelydryn at y targed gan ddefnyddio’r ddau ddrych.
{{
12) Esboniwch, pan fo golau’n bownsio oddi ar arwyneb, y caiff hyn ei alw’n adlewyrchu. Ysgrifennwch y gair hwn ar y bwrdd.
13) Esboniwch fod rhai telesgopau yn defnyddio drychau i gasglu golau o’r sêr a gwrthrychau eraill yn y Bydysawd.
14) Nesaf, rhowch daflen waith Telesgop Adlewyrchu (Atodiad 1) i bob disgybl. Gofynnwch iddynt luniadu’r llwybr y mae’r golau’n ei ddilyn o’r sêr i’r llygad, drwy’r telesgop, ar eu diagram o delesgop 1 metr (dylai’r canlyniad edrych yn debyg i’r ddelwedd isod), ac am lenwi’r bylchau yng Nghwestiwn 2.
{{
Casgliad
Nawr bod eich disgyblion yn deall sut mae telesgop yn gweithio, gofynnwch iddynt ddefnyddio telesgop adlewyrchu pwerus i dynnu lluniau o rai o ryfeddodau’r cosmos – y telesgopau robotig. Mae’r golau o’r gwrthrychau hyn wedi teithio am lawer o flynyddoedd cyn iddynt gael eu dal gan ein telesgopau, er mwyn rhoi pleser i chi!
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm:
Gwyddoniaeth CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru
““Sut mae pethau’n gweithio: sut mae goleuni’n teithio a sut y gellir ei ddefnyddio.”