Universe in the Classroom logo

The Welsh Government funding for Universe in the Classroom ended in June 2018. We have left this site available as an archive of the project.

Ffynonellau Golau

en

Yn y gweithgaredd hwn, bydd y disgyblion yn archwilio o ble y daw golau, sut mae’n teithio a sut mae modd ei ddefnyddio, cyn iddyn nhw ddefnyddio pŵer golau i archwilio’r Bydysawd!

Ffynonellau Golau canllaw athrawon

Ffynonellau Golau taflen waith myfyrwyr

Amcanion Dysgu
Deunyddiau
Gwybodaeth Gefndir:

Mae ffynhonnell golau yn golygu unrhyw beth sy’n gwneud golau. Mae ffynonellau golau naturiol ac artiffisial i’w cael. Mae’r haul, sêr a chanhwyllau yn enghreifftiau o ffynonellau golau naturiol. Mae bylbiau golau, pyst lamp a setiau teledu yn enghreifftiau o ffynonellau golau artiffisial. Heb ffynonellau golau ni fyddai modd inni weld y byd o’n hamgylch, ond nid yw popeth a welwn yn ffynhonnell golau. Mae llawer o wrthrychau yn adlewyrchu (bownsio) golau o ffynhonnell golau - byrddau, coed a’r lleuad, er enghraifft.

Cyfarwyddiadau:

1) Cychwynnwch y gweithgaredd hwn drwy ofyn i’ch disgyblion enwi rai gwrthrychau sy’n creu golau. Caiff y rhain eu galw’n ffynonellau golau.

2) Ysgrifennwch yr atebion ar y bwrdd mewn tair colofn heb labeli: nid ffynonellau golau, ffynonellau golau artiffisial a ffynonellau golau naturiol.

3) Trafodwch y gwahaniaeth rhwng y gwrthrychau ar y bwrdd — pa rai sy’n naturiol a pha rai sy’n artiffisial? Ai adlewyrchu golau’n unig a wna rhai ohonynt?

{{

}}

4) Gofynnwch i’r disgyblion ba label sy’n cyd-fynd â pha golofn.

5) Rhowch Daflen Waith Ffynonellau Golau (Atodiad 2) i bob disgybl a gofynnwch iddynt gwblhau’r cwestiwn cyntaf.

6) Trafodwch Gwestiwn 2 gyda’r disgyblion, “Sut mae golau yn caniatáu inni weld gwrthrychau eraill?” Esboniwch beth mae’r diagram isod yn ei ddangos (bydd ganddynt gopi ar eu taflen waith) ac wedyn gofynnwch iddynt esbonio yn eu geiriau eu hunain ar eu taflen waith.

7) Trafodwch Gwestiwn 3, “A all craig neu fetel fod yn ffynhonnell golau?” Esboniwch y gall hyd yn oed craig neu fetel weithredu fel ffynhonnell golau os ydynt yn ddigon poeth. Tynnwch eu sylw at y ddelwedd o seren wib (meteor) ar waelod eu taflen waith. Mae’r rhain wedi’u gwneud o graig a metel ond rydym yn eu gweld yn disgleirio wrth iddynt losgi yn atmosffer y Ddaear.

Casgliad

Gwahoddwch eich dosbarth i ddarganfod y ffynonellau golau mwyaf llachar yn y Bydysawd – sêr! Gan ddefnyddio’r telesgopau robotig, gallwch dynnu lluniau o wrthrychau fel sêr, galaethau a chlystyrau sêr sydd mor llachar fel bod modd eu gweld biliynau o flynyddoedd golau i ffwrdd!

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm:

[Gwyddoniaeth CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru ](http://learning.wales.gov.uk/docs/learningwales/publications/140624-science-in-the-national-curriculum-cy.pdf
“Sut mae pethau’n gweithio: sut mae goleuni’n teithio a sut y gellir ei ddefnyddio.”

Resources

Print media and online resources.

News & Events

Project news and up-coming training events.

Contact

If you would like to join Universe in the Classroom, please contact us.