Mae’r Bydysawd yn y Dosbarth yn rhoi’r cyfle unigryw ichi fynd â’ch disgyblion ar daith drwy’r cosmos. Gan ddefnyddio cyfrifiadur a chyswllt â’r we yn unig, gallwch ddefnyddio telesgopau proffesiynol o amgylch y byd i dynnu lluniau trawiadol o awyr y nos heb adael eich ystafell ddosbarth.
I’w gwneud mor hawdd â phosib i gynnal sesiwn arsylwi, rydyn ni wedi cynnwys y profiad mewn gêm o Bingo. Mae’n hwyl ac yn hawdd i chi a’ch disgyblion chwarae. Mae’r syniad yn un syml: chwarae gêm o Messier Bingo, a phan welwch wrthrych yr hoffech ei arsylwi, gallwch dynnu eich llun eich hun drwy glicio botwm.
Isod, cewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynnal arsylwadau gan ddefnyddio telesgopau robotig LCO.
Sut i chwarae
I ddefnyddio’r telesgopau robotig, bydd angen cyfrif LCO On Sky arnoch. Erbyn hyn, dylech fod wedi derbyn e-bost yn nodi manylion eich cyfrif. Os ydych yn addysgwr mewn ysgol gynradd yng Nghymru a heb fod wedi cael mynediad i’r rhwydwaith eto, neu os ydych yn cael unrhyw anhawster cael mynediad i’ch cyfrif, cysylltwch â chydlynydd prosiect y Bydysawd yn y Dosbarth: [email protected]
Cyn dechrau arni, lawrlwythwch ac argraffwch digon o gardiau bingo fel bod un i bob chwaraewr. Mae detholiad o 30 o gardiau Bingo fan hyn: lcogt.net/education/messierbingo
Os mai dyma eich tro cyntaf yn chwarae Messier Bingo, efallai yr hoffech gyflwyno eich dosbarth i’r amryw wrthrychau cosmig y byddant yn eu gweld yn ystod y gêm. I’ch helpu, rydyn ni wedi creu dau adnodd:
- Cyflwyniad PowerPoint Gwrthrychau Seryddol (Dechreuol): lcogt.net/files/edu/MessierBingo.pdf
- Taflen Ffeithiau Gwrthrychau Seryddol
Cyfarwyddiadau
1) Rhowch gerdyn bingo i bob chwaraewr. Mae cyfanswm o 30 o gardiau ond gallai mwy nag un person gael yr un cerdyn mewn grŵp mawr.
2) Agorwch eich porwr a lansiwch dombola hap-luniau Messier Bingo o messierbingo.lco.global/
3) Cewch wahoddiad i fewngofnodi. Rhowch eich manylion mewngofnodi i gael mynediad i Messier Bingo. Bydd yr app hwn yn efelychu tombola Bingo ac yn rhoi gwrthrychau Messier ichi ar hap.
4) Dewiswch a ydych eisiau i wybodaeth gael ei dangos. Yn yr ychydig rowndiau cyntaf, byddwch eisiau cadw’r wybodaeth yn weladwy er mwyn i’r disgyblion gael ymgyfarwyddo â’r mathau o wrthrychau.
5) Cliciwch Next Image i gychwyn ar y gêm..
6) Wrth i bob llun ymddangos, esboniwch pa fath o wrthrych ydyw, a rhowch rywfaint o wybodaeth gan ddefnyddio disgrifiad o’r gwrthrych sydd i’w weld ar Daflen Ffeithiau Gwrthrychau Seryddol Atodiad 9.
7) Pan fydd y disgyblion wedi ymgyfarwyddo â’r amryw fathau o wrthrychau, gallwch ofyn iddyn nhw weiddi enw’r math o wrthrych bob tro y bydd llun newydd yn ymddangos, er mwyn gwerthuso’r wybodaeth y maent wedi’i datblygu.
8) Bydd y chwaraewyr yn marcio’r cerdyn bob tro y bydd un o’u gwrthrychau’n ymddangos.
9) Gofynnwch i’r chwaraewyr weiddi ‘Bingo’, ‘House’ neu hyd yn oed ‘Messier’ pan fyddan nhw wedi marcio rhes gyfan o wrthrychau ar eu cerdyn.
10) Pan fydd hyn yn digwydd, diffoddwch y dangosydd gwybodaeth a chliciwch ar Next Image. Rhaid i’r chwaraewr yn awr geisio enwi’r math o wrthrych sydd i’w weld.
11) Os yw’r disgybl yn llwyddo i enwi’r math o wrthrych yn gywir, gwahoddwch nhw i ddewis Gwrthrych Messier i’w arsylwi. I wneud hyn, trowch y dangosydd gwybodaeth ymlaen ac ewch drwy’r gwrthrychau drwy glicio ar Next Image hyd nes i’r disgybl weld gwrthrych yr hoffai ei arsylwi.
12) I arsylwi’r llun, cliciwch ar ‘Take your own picture’.
13) Ewch ymlaen â’r gêm hyd nes bod disgybl wedi marcio pob gwrthrych ar y daflen, gan ailadrodd camau 10-13 bob tro y bydd disgybl wedi llenwi rhes gyfan.
14) I ennill y gêm, nid yn unig y bydd angen i’r chwaraewr fod wedi marcio pob gwrthrych ar y cerdyn, ond bydd hefyd angen iddi/iddo allu enwi’r gwrthrychau yn y gêm yn gywir.
Click here to find out how to view your observations (English only)