Yn y gweithgaredd hwn, bydd y plant yn adeiladu eu model eu hunain o delesgop LCOGT 40 cm i ddysgu mwy am sut mae’r dechnoleg hon yn casglu golau o’r Bydysawd pell. Bydd y gweithgaredd yn cynnwys sesiwn arsylwi gan ddefnyddio telesgop LCOGT 1 metr go iawn.
Adeiladu eich Model o Delesgop eich hun canllaw athrawon
Amcanion Dysgu
- Dysgu am y mathau mwyaf cyffredin o delesgop: Adlewyrchu a Phlygu.
- Deall sut olwg sydd ar delesgop LCOGT 40 cm a chael gwell dealltwriaeth o sut mae telesgop adlewyrchu’n gweithio.
- Archwilio’r math o delesgop y byddwn yn ei ddefnyddio i arsylwi’r Bydysawd.
Deunyddiau
- Model Torlun o Delesgop wedi’i Argraffu i bob disgybl (Atodiad 7).
- Siswrn
- Glud
Gwybodaeth Gefndir:
Oherwydd y pellteroedd maith sydd rhwng sêr, nid yw’n bosib teithio ar draws y cosmos i astudio gwrthrychau seryddol yn agos. Ein hunig ffordd i archwilio’r Bydysawd yw defnyddio telesgop. Mae rhwydwaith telesgop robotig LCOGT ar gael 24 awr y dydd i arsylwi ar ryfeddodau’r Bydysawd. Mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac mae modd gwneud hynny’n uniongyrchol o’ch ystafell ddosbarth! Yn y gweithgaredd hwn, bydd eich dosbarth yn dilyn y camau syml i greu model o delesgop i gael mynd ag ef adref, ac wedyn yn cynnal arsylwadau ar y gofod a chreu delweddau bythgofiadwy!
Telesgopau
Mae llawer o wahanol fathau o delesgopau, ond y prif ddau yw telesgop ‘plygu’ a thelesgop ‘adlewyrchu’. Mae telesgop plygu’n gweithio drwy ddefnyddio lens sy’n plygu golau i greu delwedd wedi’i chwyddo. Mae telesgop adlewyrchu’n defnyddio drych crwm sy’n adlewyrchu (bownsio) golau i greu delwedd.
Mae pob telesgop LCOGT yn fath o delesgop adlewyrchu. Mae prif ddrych ym mhob un sy’n amrywio mewn maint (40 cm, 1 metr a 2 fetr). Maint y prif ddrych sy’n penderfynu dosbarth y telesgop. Mae’r telesgop 40 cm a gaiff ei adeiladu yn y gweithgaredd hwn yn cynnwys drych 40 cm o ddiamedr.
Fel yr haul, mae gwrthrychau seryddol eraill yn cynhyrchu golau sy’n teithio mewn golau syth ar gyflymder o 300,000 kilometr yr eiliad. Yn y diwedd, mae’r golau’n cyrraedd y ddaear ac yn teithio drwy lens y telesgop.
Mae’r golau’n taro’r prif ddrych mawr ar gefn y telesgop, sydd fymryn yn grwm (fel llwy). Am ei fod yn grwm, mae’r golau’n adlewyrchu ar ongl, a chaiff ei anelu at ail ddrych sy’n llawer llai. Caiff y golau wedyn ei adlewyrchu oddi ar ail ddrych i’r sylladur sy’n dal y ddelwedd a’i hanfon i gyfrifiadur canolog.
Cyfarwyddiadau
1) Argraffwch gopïau o Fodel o Delesgop 40 cm (Atodiad 7) ar gerdyn tenau, a rhowch gopi yr un i bob disgybl.
2) Cyflwynwch y pwnc drwy ofyn i’r disgyblion sut rydym yn archwilio’r Bydysawd. Rydyn ni wedi anfon rocedi i’r gofod, fel New Horizons i Blwton ac Apollo i’r Lleuad, ond er mwyn astudio’r Bydysawd y tu hwnt i Gysawd yr Haul, am fod y pellteroedd gymaint yn fwy, mae angen inni ddefnyddio telesgopau.
3) Holwch beth mae’r disgyblion yn gwybod am delesgopau: a ydyn nhw’n gwybod i beth y caiff telesgopau eu defnyddio a sut maen nhw’n gweithio? Mae telesgopau’n cymryd delweddau o wrthrychau yn yr awyr yn y nos drwy gasglu golau o’r awyr.
4) Esboniwch fod dau brif fath o delesgop: plygu ac adlewyrchu. Mae telesgop plygu yn plygu a chwyddo’r golau gan ddefnyddio lens, ac mae telesgop adlewyrchu yn defnyddio drych crwm i gasglu cymaint o olau â phosib i greu delwedd. Dywedwch wrth y disgyblion eu bod nhw am adeiladu eu model eu hunain o delesgop adlewyrchu go iawn, ac wedyn yn rheoli un i greu delweddau o’r gofod!
5) I bob disgybl, rhowch Fodel o Delesgop 40 cm (Atodiad 7).
6) Gofynnwch iddynt ddilyn y cyfarwyddiadau ar y daflen i adeiladu eu model eu hunain o delesgop.
Casgliad
Nawr eich bod yn deall sut olwg sydd ar delesgop, defnyddiwch delesgop robotig go iawn i greu delweddau trawiadol o ryfeddodau’r cosmos!
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm:
Cwricwlwm Cenedlaethol CA2, Celf a Dylunio.