Gwnewch fap sêr sy’n cylchdroi (a elwir yn blanisffer) i archwilio awyr y nos. Gall planisffer ddangos y sêr a’r cytserau yn yr awyr ar unrhyw amser neu ddyddiad penodol.
Adeiladu Eich Map Sêr Eich: canllaw athrawon
Amcanion Dysgu:
- Dysgu sut gall planisffer gael ei ddefnyddio i ganfod eich ffordd drwy awyr y nos a darganfod ein lle yn y Bydysawd
- Ymarfer sgiliau cydsymud tra’n adeiladu planisffer i’w ddefnyddio
Deunyddiau
- Templed Planisffer wedi’i argraffu i bob disgybl (Atodiad 16)
- Tag trysorlys i bob disgybl
- Darn 20 x 20cm o gardbord i bob disgybl
- Sisyrnau
- Glud
Gwybodaeth Gefndir:
Map sêr o awyr y nos ar siâp cylch yw planisffer. Mae’r map sêr yn cynnwys y sêr a’r cytserau mwyaf llachar sy’n weladwy o’r Ddaear. Mae cyfansoddiad awyr y nos yn dibynnu p’un a yw’r arsylwr yn Hemisffer y Gogledd neu Hemisffer y De ac ar ledred a hydred yr arsylwr.
Caiff planisffer ei adeiladu i gylchdroi’n rhydd o amgylch colyn cyffredin yn ei ganol. Mae gan blanisfferau fel arfer ffenestri tryloyw ac maent wedi’u dylunio ar gyfer lledred a hydred penodol i ddangos y rhan o’r awyr sy’n weladwy o ledred penodol; nid yw sêr sydd o dan y gorwel i’w gweld.
Mae 12 mis llawn o ddyddiadau calendr wedi’u nodi ar ymyl y map sêr. Mae cylch amser cyfan o 24 awr wedi’i nodi ar ymyl y troshaen.
Mae’r ffenestr wedi’i nodi i ddangos cyfeiriad gorwel y dwyrain a’r gorllewin.
Cyfarwyddiadau
1) I bob disgybl, rhowch gopi wedi’i argraffu o Dempled Planisffer (Atodiad 16) a siswrn. Arweiniwch nhw drwy’r cyfarwyddiadau isod.
2) Dechreuwch drwy dorri siapau’r Map Sêr (tu allan) ar y ddwy dudalen gyntaf, gan adael y darnau lliw yn unig.
Note: Make sure you cut out the white inner sections (see image below).
Noder: Gwnewch yn siŵr eich bod yn torri’r darnau mewn gwyn i ffwrdd (gweler y llun isod).
3) Nesaf, torrwch gylchoedd Map Sêr Hemisffer y De a Map Sêr Hemisffer y Gogledd ar drydedd a phedwaredd dudalen y templed.
4) Gludwch y cylchoedd at ei gilydd, gefn wrth gefn, gyda’r lluniadau ar y tu allan a’r darn o gardbord rhyngddyn nhw i’w cryfhau. Gwnewch yn siŵr bod y misoedd yn cyd-fynd ar y ddwy ochr. Tociwch gorneli’r cardbord.
5) Wedi ichi wneud hyn, rhowch y cylch mewnol i’r naill ochr.
6) Trowch yn ôl at y Map Sêr (tu allan). Mae llabed ar ochr chwith bob un. Plygwch y llabedau hyn ar hyd y llinell aur.
7) Nesaf, unionwch ddwy ochr y Map Sêr (tu allan) (yr ochrau lliw yn wynebu tuag allan) a gludwch y llabedau er mwyn gludo’r ddwy ochr at ei gilydd.
8) Pan fydd y Map Sêr (tu allan) wedi’i orffen, rhowch y map sêr mewnol y tu mewn ac unionwch y ddau. Dylech weld y misoedd uwchben y Map Sêr (tu allan). (Gweler y llun ar y chwith.)
10) Pan fyddan nhw wedi’u hunioni, gwnewch dwll drwy ganol y bar croes gan ddefnyddio pensil miniog. Rhowch dag trysorlys drwy bob haen a’i dynnu’n dynn ar un ochr i ddal eich planisffer at ei gilydd.
Noder: I sicrhau’r canlyniadau gorau, trowch i ochr Hemisffer y Gogledd a gwthiwch y tag trysorlys yn syth drwy Seren y Gogledd. Hon yw’r seren sydd fymryn yn fwy o faint ynghanol yr olwyn, yng nghytser yr Arth Fach.
11) Yn awr dylai fod gennych fap sêr sy’n cylchdroi i’w ddefnyddio i ganfod pa gytserau a gwrthrychau y mae modd eu gweld yn awyr y nos drwy gydol y flwyddyn, yn Hemisffer y Gogledd a Hemisffer y De!
12) I ddefnyddio’r planisffer, yn gyntaf bydd angen ichi ddewis dyddiad. Dewch inni ddechrau â’r dyddiad heddiw. Dewch o hyd i’r dyddiad ar y cylch allanol (mae nodau’n cynrychioli’r diwrnodau ym mhob mis).
13) Nesaf, dewiswch amser. Mwy na thebyg y byddwch eisiau dewis amser ar ôl i’r haul fachlud. Mae’r amser wedi’i nodi ar y cylch mewnol (gan ddefnyddio cloc 24 awr).
14) Cylchdrowch y map sêr fel bod eich dewis ddyddiad ac amser yn cyd-fynd.
15) Cofiwch ddarllen ochr gywir eich planisffer. E.e. Os ydych yn byw yn Hemisffer y Gogledd, edrychwch ar ochr Hemisffer y Gogledd.
16) Wedi ichi wneud hyn, fe welwch y cytserau a’r sêr sy’n weladwy ar eich dewis amser a dyddiad drwy’r ffenestr!
Nodyn: Mae’r rhai sy’n byw yn Hemisffer y Gogledd yn ffodus bod Seren y Gogledd i’w gweld yn uniongyrchol uwchben Pegwn y Gogledd. Gall hyn ei gwneud yn llawer haws i ddechrau llywio drwy’r sêr. Mae Seren y Gogledd yn seren lachar iawn, ac mae modd ei gweld o’r rhan fwyaf o drefi ar noson glir.
14) Rhowch gyfle i’r disgyblion ymgyfarwyddo â’u map sêr a gwneud yn siŵr eu bod yn hyderus eu bod yn gwybod sut i’w ddarllen. I wirio a ydynt yn deall yr hyn maen nhw’n gweld, trafodwch y cwestiynau canlynol gyda’ch dosbarth:
:
- Beth mae ymyl y ffenest wylio yn ei gynrychioli? (Y gorwel)
-Pam fod ein golygfa o awyr y nos yn newid? (Cylchdro’r Ddaear a symudiad y Ddaear drwy ei horbit o amgylch yr Haul).
-Pa gytserau fydd hawsaf i’w gweld? (Bydd y cytserau mwyaf llachar yn fwy gweladwy, er nad yw’r rhai mwyaf llachar wedi’i nodi ar y map sêr. Yr ateb rydyn ni’n chwilio amdano yw “y rhai sydd agosaf at ganol y ffenestr wylio” — y rhai pellaf oddi wrth y gorwel — dyma’r rhai fydd uchaf yn yr awyr ac felly’n llai debygol o fod wedi’u rhwystro gan lygredd golau, adeiladau ac ati.)
Casgliad
Gan fod bellach gan y disgyblion offeryn i lywio drwy awyr y nos ar unrhyw amser neu ddiwrnod, gwahoddwch nhw i archwilio awyr y nos y tu hwnt i’r llygad noeth gan ddefnyddio telesgopau robotig.
Cysylltiadau Cwricwlwm:
Celf a Dylunio CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru, Gwneud: “dylunio a gwneud gwrthrychau ac arteffactau tri dimensiwn gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau at amrywiaeth o ddibenion”.