Universe in the Classroom logo

The Welsh Government funding for Universe in the Classroom ended in June 2018. We have left this site available as an archive of the project.

Maint Cysawd yr Haul

en

Faint o amser mae’n cymryd i deithio i’r Lleuad? Faint o amser a gymerai i gyrraedd ymyl Cysawd yr Haul? Yn y gweithgaredd hwn, bydd y disgyblion yn dysgu am faint Cysawd yr Haul, gan ddechrau â’r Ddaear a’r Lleuad, ac ehangu i gynnwys yr holl blanedau.

Maint Cysawd yr Haul canllaw athrawon

Maint Cysawd yr Haul taflen waith myfyrwyr

Amcanion Dysgu:
Deunyddiau
Gwybodaeth Gefndir

Cysawd yr Haul: Mae Cysawd yr Haul yn cynnwys yr Haul a phopeth sy’n symud o’i amgylch. Mae wyth o blanedau, pump o blanedau corachaidd a llawer o leuadau, comedau, asteroidau a meteorau.

New Horizons: Dyma’r llong ofod gyflymaf i’w hadeiladu erioed. Fe’i lansiwyd yn 2006 ar ymgyrch i gyrraedd Plwton yn ardal dywyllaf, oeraf Cysawd yr Haul, a chyrhaeddodd yno yn 2015. Mae New Horizons yn teithio ar gyflymder cyfartalog rhyfeddol o 58,536 kilometr yr awr.

Model i Raddfa: Mae model i raddfa yn fodel sy’n dangos gwrthrych a wnaed yn llai neu’n fwy yn ôl maint cywir (a elwir yn raddfa). Caiff y raddfa ei dangos ar ffurf: yr hyd sy’n cael ei ddefnyddio yn y model, wedyn colon (:), wedyn hyd cyfatebol y peth go iawn.

Er enghraifft: os yw bwrdd yn 30 cm o led, gan ddefnyddio graddfa o 1:30, byddem yn creu bwrdd sy’n 1 cm o led. Pe byddai bwrdd yn 60 cm o led, gan ddefnyddio’r un graddfa o 1:30 eto, byddai’r model o’r bwrdd yn 2cm o led.

Pe byddai gan fodel raddfa o 1:10, byddai gan unrhyw fodel sydd â maint o 1 faint o 10 yn y byd go iawn, felly byddai model o ystafell sy’n 1 metr o led yn dangos ystafell sy’n 10 metr o led yn y byd go iawn.

Cyfarwyddiadau

1) Daliwch eich glôb a’r “Lleuad” o becyn cymorth “Bydysawd mewn Bocs” (neu gofynnwch i ddau wirfoddolwr: un i ddal y glôb, ac un i ddal y Lleuad). Gofynnwch i’r dosbarth pa mor bell maen nhw’n meddwl yw’r Lleuad o’r Ddaear ar y raddfa hon? A ddylech eu dal yn agosach at ei gilydd neu’n bellach oddi wrth ei gilydd?

2) Gadewch i’r disgyblion ddyfalu ychydig o weithiau, wedyn esboniwch y gallech osod 30 o blanedau’r Ddaear yn y gofod sydd rhwng y Lleuad a’r Ddaear! Mae’n 384,000 km!

3) Hefyd, gallech fesur cylchedd y glôb, lluosi’r rhif hwn â 30, a rhoi’r pellter ar y llawr i ddangos yr union bellter i raddfa. Wrth ddefnyddio pêl y Ddaear o’r Bydysawd yn y Dosbarth, dylai’r Lleuad fod ryw 12.5 metr i ffwrdd.

4) Faint o amser mae’r disgyblion yn credu mae’n cymryd i deithio’r pellter hwn mewn llong ofod?

5) A allant ddefnyddio cyfrifiannell i gyfrifo faint fyddai’n cymryd i deithio i’r Lleuad ar fwrdd New Horizons?

384,000 ÷ 58,536: 6.56 awr

6) Nesaf gofynnwch i’r disgyblion beth yw’r gwrthrych agosaf nesaf i’r Ddaear? (Ateb: Mawrth.) Yn rhan nesaf y gweithgarwch, byddant yn dysgu maint Cysawd yr Haul a’r pellter rhwng y gwrthrychau.

7) Cymrwch ddarn o linyn a rhowch streipen drwchus ar y llinyn yn agos i un pen. Bydd y streipen hon yn cynrychioli’r Ddaear.

Solar System Scale String

8) Nawr gallwch naill ai ofyn i’r disgyblion ymarfer eu sgiliau rhifedd a llenwi taflen waith Maint Cysawd yr Haul (Atodiad 8), neu ddefnyddio’r gwerthoedd yn y tabl isod i ddangos y pellteroedd rhwng y planedau yng Nghysawd yr Haul.

Planed Pellter i'r haul (km) Pellter (cm)
Mercwri 57 000 000 5.7
Gwener 108 000 000 10.8
Ddaear 105 000 000 15
Mawrth 228 000 000 22.8
Iau 780 000 000 78
Sadwrn 1 430 000 000 143
Wranws 2 880 000 000 288
Neifion 4 500 000 000 450
Plwton 5 910 000 000 591

9) Gofynnwch am wirfoddolwr i fesur y pellter o’r “Haul” i blaned Mercher gan ddefnyddio’r gwerthoedd yn y tabl isod (neu eu gwerthoedd eu hunain). Rhowch linell ar y llinyn gyda’r pen marcio i gynrychioli planed Mercher.

10) Nesaf, gofynnwch i ail wirfoddolwr fesur y pellter o’r Haul i blaned Gwener. Ewch yn eich blaen hyd nes eich bod wedi nodi’r pellter i bob planed (ynghyd â phlaned gorachaidd Plwton).

11) Nawr gofynnwch am naw o wirfoddolwyr i fod yn blanedau. I ddewis eich gwirfoddolwyr, gallech ofyn i’r disgyblion ddweud enwau’r planedau yn eu trefn o’r Haul (e.e. ar ôl Mercher, dewiswch y disgybl sy’n dweud Gwener).

Solar System Scale Demo

  1. Gofynnwch iddynt sefyll yn y drefn gywir — yr Haul ar y chwith eithaf, a’r blaned sydd bellaf o’r Haul ar y dde eithaf — y tu ôl i’r llinyn a dal eu bawd dros y pwynt bach sy’n cynrychioli eu planed nhw.

  2. Ar beth mae’r plant eraill yn sylwi: i. Ai’r un bylchau sydd rhwng y planedau? ii. A yw’r planedau sydd bellaf oddi wrth yr Haul yn agosach at ei gilydd neu’n bellach oddi wrth ei gilydd? iii. Pam felly?

14) Os yw’n cymryd tua 7 awr i deithio o’r Ddaear i’r Lleuad, faint o amser maen nhw’n meddwl a gymerai i deithio i Fawrth, Iau neu hyd yn oed i Blwton?

15) Gofynnwch i’r myfyrwyr gyfrifo faint o amser a gymerai i deithio i bob un o’r planedau ar fwrdd New Horizons gan ddefnyddio’r pellteroedd yn eu tabl. Byddant yn trosi’r rhif o oriau i ddiwrnodau (drwy rannu â 24).

Dewis arall: Defnyddiwch ddarn o bapur sgrap i greu model o Gysawd yr Haul. I wneud hyn, bydd arnoch angen sawl dalen o bapur A2 neu A3 wedi’u torri ar eu hyd i greu sawl stribed tua 5cm o led. Plygwch y papur yn ei hanner (eu plygu yn eu hyd bob amser). Lluniadwch a labelwch Wranws yn y plygiad. Plygwch y ddau ben i’r canol. Mewn un plygiad lluniadwch Neifion, a lluniadwch Sadwrn yn y llall. Plygwch hyd at Sadwrn a lluniadwch Iau yn y plygiad. Plygwch hyd at Iau. Y plygiad hwn fydd y gwregys asteroidau. Plygwch hyd at y gwregys asteroidau. Y plygiad hwn fydd Mawrth. Yn olaf, plygwch hyd at blaned Mawrth ac wedyn plygwch eto. Y tri phlygiad rhwng Mawrth a’r ymyl fydd y Ddaear, Gwener a Mercher. Ymyl y papur yw’r Haul. Y pen arall yw lleoliad planed gorachaidd Plwton.

Casgliad

Gan eich bod bellach yn deall y pellteroedd rhyfeddol yn y gofod a pham fod telesgop yn offeryn mor hanfodol i archwilio ein Bydysawd helaeth, gwahoddwch y dosbarth i ddefnyddio’r telesgopau robotig i ddarganfod rhyfeddodau’r cosmos!

¥ Cysylltiadau â’r Cwricwlwm:

Gwyddoniaeth CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru, Y Ddaear Gynaliadwy: “Safleoedd cymharol a nodweddion allweddol yr Haul a phlanedau eraill yng nghysawd yr haul”

Resources

Print media and online resources.

News & Events

Project news and up-coming training events.

Contact

If you would like to join Universe in the Classroom, please contact us.