Universe in the Classroom logo

The Welsh Government funding for Universe in the Classroom ended in June 2018. We have left this site available as an archive of the project.

Darganfod Cylchfaoedd Amser

en

Mae gwahanol rannau o’r blaned yn profi gwahanol amserau. Pan mae’n amser cinio yng Nghymru, mae plant yn Awstralia eisoes yn cysgu’n braf! Mae cylchfaoedd amser yn gysyniad pwysig, ond cymhleth. Mae’r gweithgaredd hwn yn defnyddio arddangosiadau ymarferol i esbonio symudiad y Ddaear a’r angen am wahanol gylchfaoedd amser mewn ffordd glir a dealladwy.

Darganfod Cylchfaoedd Amser canllaw athrawon

Darganfod Cylchfaoedd Amser taflen waith myfyrwyr

Amcanion Dysgu:
Deunyddiau
Gwybodaeth Gefndir

Arferai trefi a dinasoedd ledled y byd osod eu clociau yn ôl yr Haul, ond mae’r wawr a’r machlud yn digwydd ar wahanol amserau mewn gwahanol leoedd oherwydd cylchdro’r Ddaear. Bryd hynny, golygai’r amserau teithio hir a’r diffyg dulliau cyfathrebu dros bellter hir mai prin oedd pobl yn sylwi ar wahaniaethau amser. Ni chododd yr angen am gylchfaoedd amser safonol hyd nes y 1800au, wrth i systemau trafnidiaeth cyflymder uchel ddatblygu.

Ym 1884, penderfynodd panel rhyngwladol ar system y cylchfaoedd amser, a dyma, yn ei hanfod, a ddefnyddiwn hyd heddiw. Mae cylchfaoedd amser yn seiliedig ar y ffaith bod y Ddaear yn symud drwy 15 gradd hydred bob awr. Felly mae 24 cylchfa amser safonol (24 awr x 15º: 360º).

Caiff cylchfaoedd amser eu cyfri o’r Prif Feridian sef 0º hydred. Mae’r Prif Feridian yn rhedeg drwy Greenwich yn Lloegr. Ond, yn ymarferol, mai siapau cylchfaoedd amser wedi’u newid i gyd-fynd â ffiniau gwleidyddol mewnol a rhyngwladol. Mai gan rai gwledydd gylchfaoedd amser ansafonol, fel arfer wedi’u haddasu 30 munud, ond mae rhai wedi’u haddasu 45 munud.

UTC (Universal Time Coordinated) yw’r safon amser gyffredin ar draws y byd. Gall diffiniad cylchfa amser gael ei fynegi fel UTC ± n, lle mae n yw’r addasiad mewn oriau. Er enghraifft, GMT: UTC ± 0, ond BST: UTC + 1:00.

Cyfarwyddiadau

1) 1. Cyn cychwyn ar y gweithgaredd hwn, nodwch leoliad pob un o’r 7 safle arsylwi LCOGT ar eich glôb gan ddefnyddio sticer. Gweler y llun isod.

LCOGT Map

Arsyllfa  Lleoliad
Haleakala Hawaii, USA
McDonald Texas, USA
Cerro Tololo Chile
Sutherland South Africa
Siding Springs Eastern Australia
Teide Tenerife
Ali Tibet, China

2) Yn yr arddangosiad hwn, bydd eich lamp yn dynwared yr Haul. Gosodwch lamp ar fwrdd lle gall y dosbarth wylio. Noder: Os nad yw’r dosbarth yn gyfarwydd â dydd a nos, ewch drwy hyn yn gyntaf gan roi arddangosiad bach.

3) Dechreuwch drwy ofyn i’r dosbarth nodi lleoliad eich ysgol ar y glôb. Gosodwch y glôb fel bod eich ysgol yn wynebu’r lamp yn uniongyrchol. Mae’r safle hwn yn cynrychioli hanner dydd yn eich ysgol.

4) Gofynnwch i’r disgyblion a allan nhw gylchdroi’r glôb i ddangos yr amser presennol.

Noder: Mae’r Ddaear yn cylchdroi mewn cyfeiriad gwrthglocwedd ar ei hechel.

**

5) Tynnwch sylw’r disgyblion at y safleoedd arsylwi ar eich glôb. Daliwch y glôb yn ei safle a gofynnwch y cwestiynau canlynol: - A all y dosbarth amcangyfrif yr amser ar bob safle? (i blant iau, bydd ‘dydd’ neu ‘nos’ yn ddigonol.) - Pa delesgop all gael ei ddefnyddio i gynnal arsylwadau ar yr amser hwn?

6) Trowch y glôb fel bod eich ysgol yn wynebu’n uniongyrchol i ffwrdd oddi wrth y lamp. Esboniwch bod hyn yn dangos eu hysgol am hanner nos. Gofynnwch am wirfoddolwr i edrych o amgylch pêl y Ddaear. Gofynnwch iddi/iddo ba arsyllfeydd a all arsylwi awyr y nos yn awr a pha rai nad ydynt ar gael mwyach?

7) Esboniwch fod gan LCOGT arsyllfeydd ledled y byd er mwyn iddynt allu cadw llygad ar y Bydysawd ba bynnag awr o’r dydd ydyw! Fel hyn, fyddwn ni ddim yn colli dim, fel seren yn ffrwydro’n sydyn, er enghraifft! won’t miss anything, such as a star suddenly exploding!

Day and Night Globe

8) Ar gyfer rhan nesaf y gweithgaredd, rhowch Daflen Waith Cylchfaoedd Amser i bob disgybl (Atodiad12).

9) Esboniwch fod y Ddaear wedi’u rhannu’n 24 segment, wedi’u gwahanu gan linellau dychmygol sy’n rhedeg o Begwn y Gogledd i Begwn y De o amgylch y blaned. Dangoswch hydred ar y glôb.

Noder: Mae hydred yn rhedeg o’r gogledd i’r de, ac yn croestorri’r cyhydedd.

10) Gofynnwch i’r disgyblion pam fod 24 cylchfa amser. Yr ateb yw am fod 24 awr mewn diwrnod.

11) I ddisgyblion mwy galluog, gallwch hefyd esbonio bod pob un o’r 24 cylchfa amser (yn ddamcaniaethol) yn cwmpasu 15 gradd hydred o’r Ddaear. Gofynnwch iddynt luosi 24 gyda 15 (24 cylchfa amser yn cwmpasu 15 gradd). Yr ateb yw 360, sef nifer y graddau mewn cylch (neu gylchedd y blaned)

12) Gofynnwch i’r disgyblion nodi’r llinell sy’n rhedeg i lawr canol eu taflen waith mewn lliw llachar.

Time Zones Worksheet

13) Gofynnwch i’r dosbarth labelu’r llinell â’r geiriau ‘Prif Feridian’. Esboniwch fod y Prif Feridian yn rhedeg drwy Greenwich ger Llundain.

14) Mae’r Ddaear yn cylchdroi mewn cyfeiriad gwrthglocwedd, felly wrth symud i’r dwyrain o’r Prif Feridian, rydym yn ychwanegu un awr am bob cylchfa amser. E.e. os yw’n 11am (11:00) ar hyd y Prif Feridian, bydd yn 8pm (20:00) yn Tokyo sy’n 9 segment i’r dwyrain.

15) Gofynnwch i’r disgyblion gyfrifo ym mha segment mae eich ysgol chi a nodi’r amser presennol (wedi’i dalgrynnu i’r awr agosaf) yn y segment cywir yn eich taflen. Rhowch label ‘Fy Ysgol’ i hyn neu rywbeth tebyg.

16) Gan ddefnyddio’r amser hwn yn llinell sylfaen, gofynnwch i’r disgyblion gyfrifo’r amser presennol ym mhob lleoliad ac arsyllfa LCOGT ar eu taflen waith ac ysgrifennu’r ateb yn y gofod sydd wedi’i nodi.

17) Nawr, rhowch gyfle i’r dosbarth wirio eu hatebion gan ddefnyddio glôb a lamp. Gosodwch y glôb a’r lamp i ddangos yr amser presennol. A yw’n edrych fel bod yr arsyllfeydd wedi’u lleoli yn y lle cywir ar gyfer yr amserau maen nhw wedi’u cyfrifo? (E.e. os yw arsyllfa ar 3am, dylai fod yn y tywyllwch, a dylai arsyllfa ar 11am fod yng ngolau dydd.)

Taflen Waith Cylchfaoedd Amser: Atebion
Arsyllfa neu Ddinas Lleoliad Cylchfa Amser
Haleakala Hawaii, USA UTC-10:00
McDonald Texas, USA UTC-06:00
Cerro Tololo Chile UTC-03:00
Sutherland South Africa UTC+02:00
Siding Springs Eastern Australia UTC+10:00
Teide Tenerife UTC±00:00
Ali Tibet, China UTC+05:30
New York New York, USA UT-04:00
London United Kingdom UTC±00:00
Wellington New Zealand UTC+12:30
Casgliad

A’r disgyblion bellach yn deall bod rhwydwaith LCO yn rhoi mynediad 24 awr i awyr y nos, gallwch gynnal sesiwn arsylwi amser go iawn gan ddefnyddio telesgop robotig sydd ar gael. Bydd angen ichi gadw lle ymlaen llaw. I wneud hyn, cysylltwch â’ch Cydlynydd Prosiect [email protected] gan nodi amser a dyddiad eich slot. I benderfynu pa dargedau i arsylwi arnynt, gofynnwch i’r disgyblion ganfod pa delesgopau allai wneud yr arsylwi yn awr. Y disgybl cyntaf i enwi telesgop sydd ar gael fydd yn cael dewis pa wrthrych i’w arsylwi.

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Gwyddoniaeth CA2 yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru, “Y Ddaear Gynaliadwy: symudiadau dyddiol a blynyddol y ddaear a’r effaith ar hydoedd dyddiau a blynyddoedd”

Resources

Print media and online resources.

News & Events

Project news and up-coming training events.

Contact

If you would like to join Universe in the Classroom, please contact us.